Neidio i'r cynnwys

Makoko

Oddi ar Wicipedia
Makoko
Image
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLagos Mainland, Lagos State Edit this on Wikidata
GwladBaner Nigeria Nigeria
Cyfesurynnau6.495271°N 3.392973°E, 6.499°N 3.388°E, 6.4961°N 3.3878°E Edit this on Wikidata
Map

Ardal slym ar arfordir tir mawr Lagos, Nigeria, yw Makoko. Mae traean o'r gymuned wedi'i hadeiladu ar stiltiau ar hyd y lagŵn tra bod y gweddill ar y tir. Pobl Egun yn bennaf sy'n byw ar lannau'r gymuned. Ymfudasant yno o Badagary a Gweriniaeth Benin a physgota yw eu prif waith. Yng Ngorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos i rai o'r stiltiau y tu hwnt i'r llinellau pŵer gael eu tynnu heb rybudd priodol. Arweiniodd hyn at ddinistrio nifer o stiltiau ar lannau Iwaya a Makoko a chollodd nifer o deuluoedd eu cartrefi.[1]

Image
Makoko: Merch a'i chwaer mewn canŵ
Image
Golygfa gyffredin ym Makoko yw bechgyn yn rhwyfo canŵ.

Wedi'i sefydlu yn y 19eg ganrif, mae'r rhan fwyaf o Makoko yn sefyll ar strwythurau a adeiladwyd ar stiltiau uwchben Lagŵn Lagos.[2][3] Mae cymuned Makoko yn agos i Iwaya ar y lan ac i Oko Baba.[4] Ym mis Gorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos o dan Babatunde Fashola i'r stiltiau ar lan Iwaya a Makoko gael eu dymchwel a thynnwyd degau o stiltiau o fewn 72 awr o rybudd i'r preswylwyr. Collodd bron i 3,000 o bobl eu cartrefi wedi hyn.[1][5][6][7] Ddau fis ar ôl y dymchwel rhannol, datblygodd cwmni tai cysylltiedig â Serac o'r enw Urban Spaces Innovation gynllun adfywio i Makoko a fyddai'n golygu dod â'r gymuned, academyddion, sefydliadau nid-er-elw ac ymgynghorwyr rhyngwladol at ei gilydd i'w wireddu. Cyflwynwyd y cynllun i Weinyddiaeth Cynllunio Trefol a Chorfforol Lagos ym mis Ionawr 2014.

Cyfeirir at Makoko fel "Fenis Affrica" weithiau.[8] Ystyrir bod ganddi boblogaeth o 85,840, ond ni chyfrifwyd yr ardal yn swyddogol fel rhan o gyfrifiad 2007 ac felly amcangyfrifwyd bod y boblogaeth yn llawer uwch na hyn.[2]

Image

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Destroying Makoko". The Economist. 18 Awst 2012.
  2. 1 2 This Day (1 Mai 2009). "Makoko Residents And Their Unwanted Guest". Africa News.
  3. Cohen, Roger (20 Gorffennaf 1998). "Nigerian Slum's Filth Is a World Away From Capital's Glitter". The New York Times.
  4. UN Integrated Regional Information Networks (5 Medi 2006). "Lagos, the mega-city of slums". Africa News. Cyrchwyd 19 Medi 2009.
  5. "Lagos Makoko slums knocked down in Nigeria". BBC. 17 July 2012. Cyrchwyd 28 Chwefror 2015.
  6. "Nigeria: Day After Makoko and Abonema - Frustration of a Homeless Nation". allAfrica.com. Cyrchwyd 28 Chwefror 2015.
  7. Tolu Ogunlesi, "Inside Makoko: danger and ingenuity in the world's biggest floating slum", The Guardian, 23 Chwefror 2016.
  8. Soni Methu (24 Rhagfyr 2014). "Postcards from home: documenting Nigeria's floating community". CNN. Cyrchwyd 10 Hydref 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]